EIS(5)-02-19(P10)

 

 

Ail Adroddiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru gan Gomisiynydd Traffig (CT) Cymru

 

 

Rhagair

 

Rwy'n falch o amgáu fy ail Adroddiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru. Ysgrifennwyd fy adroddiad cyntaf ar ben-blwydd fy mhenodiad fel CT llawnamser i Gymru, yn wahanol i’r rhan fwyaf o adroddiadau blynyddol sy’n cyfeirio at flynyddoedd ariannol. Mae'n cyfeirio at agweddau cadarnhaol a negyddol. Wrth imi brawf ddarllen yr adroddiad hwn cyn ei gyhoeddi, nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus. Ni fwriedir i’r adroddiad hwn fod yn ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Rwyf wedi mynd ati yn y gorffennol i nodi meysydd y gellid eu datganoli[1].

 

Fel pob CT arall, lluniais adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018[2] a gofynnaf i'm hadroddiad i Lywodraeth Cymru gael ei ddarllen ar y cyd â'm hadroddiad arall.

 

Rwyf yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gadarnhau y bydd yn sicrhau bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyfieithu fel ei fod ar gael yn Gymraeg. Pan agorir Swyddfa'r Comisiynydd Traffig newydd (SCT) yng Nghymru gyda staff dwyieithog, gobeithio y bydd hynny’n osgoi'r angen i wneud cais o'r fath.

 

 

Materion a godwyd yn fy Adroddiad Blynyddol cyntaf

 

Roedd fy adroddiad cyntaf at Lywodraeth Cymru yn cyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs) mewn lonydd bysiau. Roedd y mater hwn yn un a drafodwyd mewn fforwm a oedd yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddwyr â diddordeb, a chodais y mater hefyd yng nghyfarfod Grŵp Cynghori Cymru ar Gludiant ar y Ffyrdd.

 

Datgelodd y sylw a’r sylwebaeth gan y cyfryngau ar y mater hwn fod rhai pobl yn meddwl, yn gyfeiliornus, fy mod wedi awgrymu y dylai HGVs rannu lonydd bysiau gyda beicwyr. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, cadarnhaodd canlyniad y gwahanol drafodaethau y gallai caniatáu i HGVs ddefnyddio lonydd bysiau fod yn beth synhwyrol i’w wneud o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn, fel arfer, ar ffordd osgoi neu ffordd gyswllt.

 

Pe bai HGVs yn peri rhwystr difrifol i lif Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVs) mewn llwybrau bysiau, byddai hynny’n gwbl groes i nod llwybrau bysiau yn y lle cyntaf, ac ni fyddai’n cael ei groesawu. Heblaw hynny, wrth ystyried rhannu defnydd o lonydd bysiau, dylid gwneud hynny yn ôl ei rinweddau. Mae'n anodd rhagweld y gallai HGVs a beicwyr rannu lonydd bysiau yn ddiogel.

 

Roedd fy adroddiad cyntaf yn cyfeirio hefyd at ddarpar swyddfeydd yng Nghaerdydd neu yn y Gogledd-orllewin. Rwyf yn ymdrin â'r diffyg cynnydd ar y mater hwn yn nes ymlaen yn fy adroddiad, ond roeddwn mewn penbleth ar ôl gweld amryw adroddiadau yn y wasg yn awgrymu fy mod yn dal yn Birmingham. Nid yw hynny wedi bod yn wir ers mis Medi 2016. Mae’r cymorth gweinyddol ar gyfer fy ymchwiliadau cyhoeddus a fy ngwrandawiadau i ymddygiad gyrwyr yn cael ei ddarparu o Birmingham, gyda gwaith yn cael ei wneud hefyd gan staff ym Mryste ac mewn lleoliadau eraill sy’n rhan o Swyddfa’r Comisiynydd Trafnidiaeth, gan gynnwys Eastbourne.

 

Fel Comisiynydd Traffig, rwyf wedi bod yn gweithio o fy nghartref wrth i’r gwaith fynd rhagddo i chwilio am adeilad ar gyfer fy swyddfa. Er bod hynny’n golygu bod gennyf olygfa o fynyddoedd du hyfryd Cymru, ni all gymryd lle swyddfa barhaol a chymorth gweinyddol wrth law. Mae anfanteision ymarferol hefyd, yn enwedig pan fo’r sefyllfa wedi parhau ers mwy na dwy flynedd. Rwyf wedi bod yn ddibynnol iawn ar TG, ac roedd hynny’n gryn broblem pan gollais bron 18 mis o waith yn rhannol oherwydd newidiadau a osodwyd gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).

 

 

Paratoi gweithredwyr yng Nghymru ar gyfer y dyfodol

 

Seminarau a gynhaliwyd yn 2018

 

Mae cyfran sylweddol o weithredwyr bysiau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig. Yn dilyn Uwchgynhadledd Bysiau 2017, roedd cydnabyddiaeth o'r angen am gymorth ariannol ac arweiniad posibl ar gyfer busnesau teuluol yn y diwydiant bysiau. Roedd cefnogaeth gan Busnes Cymru yn nodwedd hanfodol o'r gweithdai a'r seminarau a ddilynodd. Cynhaliwyd wyth gweithdy ar wahân (neu ymarferion gwrando). Bydd hynny wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’r gwaith o bwyso a mesur barn rhanddeiliaid ar:

 

 

·         wybodaeth, gan gynnwys cysylltiadau â chwsmeriaid, marchnata, integreiddio prisiau a thechnoleg

·         hygyrchedd, diogelwch a seilwaith, dibynadwyedd gwasanaethau a thagfeydd

·         rheoliadau amgylcheddol a chynllunio, a chynllunio defnydd tir

·         trefniadau ariannu, gan gynnwys targedu’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau (GCGB) yn well

 

Ar wahân i sesiynau ar gydymffurfio o dan fy arweiniad i a staff uwch y DVSA, hwyluswyd cyflwyniadau ardderchog gan Busnes Cymru. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwylio'r ymwneud rhwng gweithredwyr ac ysgrifennwr bidiau proffesiynol sydd, fel rhan o’u swydd o ddydd i ddydd, yn ysgrifennu bidiau neu’n hyfforddi eraill i wneud hynny. Dywedwyd sawl gwaith fod y diwydiant Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVs) yn cael ei drin yn wahanol, yn ôl pob golwg, i ddiwydiannau eraill a bod hynny’n arwain at sefyllfa lle y mae rhai sefydliadau contractio yn ariannu ar sail pris yn unig. Heblaw am brysuro'r hyn y gellid ei ystyried yn ras i’r gwaelod o ran ansawdd a diogelwch, efallai y bydd cwestiynau hefyd am uniondeb penderfyniadau o'r fath gan rai awdurdodau lleol.

 

Mae'n amlwg mai un wers hanfodol a ddysgwyd o'r seminarau a’r ymwneud arall rhwng y diwydiant PSVs a rhanddeiliaid yw bod y trefniant presennol, lle mae 22 awdurdod lleol yn cyhoeddi contractau neu dendrau am wasanaethau, yn arwain at anawsterau sylweddol.  Mae hyfforddiant wedi'i ddarparu bellach ar gyfer gweithredwyr PSVs, ond er bod gan rai o'r awdurdodau lleol gryn arbenigedd, mae'n glir nad yw hynny o reidrwydd yn wir ym mhob awdurdod. Byddwn yn awgrymu bod angen gwirioneddol inni roi cefnogaeth i'r swyddogion hynny sy'n delio â chontractau i’w cynorthwyo gyda chydymffurfio â'r gyfraith ac arferion gorau. Gall y trefniadau presennol barhau i achosi anawsterau sylweddol. Man lleiaf, mae angen i awdurdodau lleol weithio ar sail consortia. Byddai hynny’n cydnabod y ffaith bod llawer o drafnidiaeth gyhoeddus yn seiliedig ar ranbarth yn hytrach nag ar ardal awdurdod lleol penodol, a byddai hefyd yn adlewyrchu manteision rhannu a datblygu arbenigedd.

 

Seminarau y bwriedir eu cynnal yn 2019

 

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnig hyfforddiant pellach i weithredwyr PSVs, gan gynnwys hyfforddiant diogelu arbenigol, ond mae'n amlwg bod diffyg gwybodaeth a sgiliau ymhlith y cwmnïau llai sy'n gweithredu PSVs. Bydd y rhaglen ar gyfer 2019 hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddarparu hyfforddiant arbenigol ar ddatblygu busnes.

 

Rwyf wedi sôn yn y gorffennol am yr angen am hyfforddiant ar gyfer gwahanol sectorau’r diwydiant HGVs yng Nghymru. Dim ond pan fydd gan y CT swyddfa sefydlog wedi’i staffio yng Nghymru y bydd hynny’n bosibl.

 

 

Heriau sy'n wynebu gweithredwyr yng Nghymru

 

Anawsterau wrth recriwtio gyrwyr HGVs a PSVs

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio ar wahanol adegau at bryderon a fynegwyd gan awdurdodau lleol a gweithredwyr am yr anawsterau wrth recriwtio gyrwyr galwedigaethol. Dyfynnwyd amryfal ystadegau am y gymhareb o ran gyrwyr sy’n ddynion a gyrwyr sy’n fenywod yn y diwydiant HGVs; dim ond 1% i 2% ohonynt sy’n fenywod. Mae'r ffigurau ar gyfer y diwydiant PSVs ychydig yn well, ond nid ydynt hwy ychwaith yn ennyn hyder. Mae'r ffigurau uchod yn cael eu hadlewyrchu ledled Prydain.

 

Fel rhywun sydd â hanes hir o herio anghydraddoldeb ac o hyrwyddo amrywiaeth, mae’r  cyfleoedd a gollwyd i hyrwyddo gyrru proffesiynol fel gyrfa yn peri cryn ofid imi. Rwyf yn falch bod rhywfaint o waith yn cael ei wneud yng Nghymru ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau i geisio gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, gan gynnwys gweithredwyr, mewn cynllun peilot yn y Gogledd-orllewin. Gallai hynny olygu ariannu hyfforddiant ar gyfer pobl a allai gael eu recriwtio i’r diwydiant. Gofynnir i reolwyr trafnidiaeth sy’n gweithio gyda’r gweithredwyr sy'n rhan o’r cynllun ddod i weithdy ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymo i wella mynediad at gyflogaeth i ferched a grwpiau lleiafrifol.

 

Er bod hon yn broblem ers tro, rwyf yn hynod falch bod y rheini sy'n gweithio yng Nghymru yn ceisio hyrwyddo mentrau a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r anawsterau wrth recriwtio a chadw gyrwyr galwedigaethol addas wedi bod yn rhwystr i gynaliadwyedd hirdymor ar draws Cymru (a Lloegr).

 

Mynd i'r afael â hawliadau twyllodrus am brisiau teithio consesiynol ac am y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau.

 

Mae achos twyll uchel ei broffil yn ymwneud â phrisiau teithio consesiyniol wedi dod i ben, sy’n golygu fy mod bellach yn gallu trafod y mater. Ymhlith nodweddion yr achos oedd y lefel uchel iawn o dwyll a gafodd ei phrofi yn y llys, a hefyd y ffaith ei bod, yn ôl pob golwg, yn hawdd gwneud hynny.

Rwyf wedi cyfeirio yn fy adroddiadau blaenorol at y gymhareb uwch o lawer o gyllid gwladwriaethol a roddir yng Nghymru o gymharu â Lloegr a'r Alban, fel cyfran o incwm gweithredwr PSVs. Sylw a glywir yn gyson ac yn glir wrth wrando ar y diwydiant yw bod angen gwella rheolaeth yn sylweddol. Mae'r arian a gollwyd drwy dwyll mewn dau achos gwahanol yn ymwneud â gweithredwyr yn y Gogledd, yn uwch na’r costau tebygol a fyddai’n gysylltiedig ag arfer rheolaeth resymol er mwyn atal twyll o'r fath.

 

Fel rhywun nad yw'n gysylltiedig â'r broses tocynnau teithio consesiynol, hoffwn ddweud mai mater i eraill yw mynd ati i ystyried defnyddio gwell technoleg ynghyd â systemau effeithiol ar gyfer monitro hawliadau am ad-daliadau. Mae'n amlwg imi y dylai awdurdodau lleol, o leiaf, weithio ar sail consortia wrth ymdrin â materion megis tocynnau consesiynol a’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau. Mae hefyd angen mwy o eglurder a hyfforddiant yn y broses reoli / archwilio.

 

Er gwaethaf yr angen i fynd i'r afael ar fyrder â thwyll sy'n gysylltiedig ag arian cyhoeddus, rwyf yn cydnabod bod rhywfaint o arbenigedd yn y 22 awdurdod lleol. Mae problemau'n codi weithiau oherwydd bod arbenigedd yn cael ei wanhau neu ei golli.

 

 

Rôl y rheoleiddiwr yng Nghymru

 

Materion amgylcheddol sy’n gysylltiedig â chanolfannau gweithredu HGV

 

Mae un o swyddogaethau'r CT yn ymwneud ag awdurdodaeth o ran materion diogelwch a materion amgylcheddol yng nghyswllt canolfannau gweithredu HGVs; nid oes unrhyw awdurdodaeth gan y CT dros faterion amgylcheddol yn achos canolfannau gweithredu PSVs.

 

Mae yna restr o gyrff statudol sy'n gallu gwrthwynebu bwriad i ddefnyddio safleoedd ar gyfer parcio HGVs, gan gynnwys awdurdodau lleol. Yn ogystal, mae gan bobl yn yr ardal gyfagos hefyd hawl i gyflwyno sylwadau o fewn terfynau amser penodedig.

 

Mae'n un o'n swyddogaethau y mae dirfawr angen ei diwygio ac yn wir, mae Comisiynwyr Traffig ledled Prydain wedi awgrymu bod Llywodraeth y DU yn ystyried y mater hwn pan gynhelir yr adolygiad cyffredinol nesaf o'n gwaith (nid yw’n fater sydd wedi'i ddatganoli).

 

Sylwaf fod AC wedi gofyn cwestiwn am fater amgylcheddol ar o leiaf un achlysur, ac iddo gael ymateb safonol gan y tîm trwyddedu canolog sy'n ymdrin â phob cais o'r fath ym Mhrydain.

 

Cyfarfodydd a chyfathrebu gydag ACau ac ASau

 

Drwy gydol fy ngyrfa fel CT, rwyf wedi croesawu ymholiadau unigol oddi wrth ACau ac ASau. Mae'r rhan fwyaf o randdeiliaid yn sylweddoli na allaf bob amser ymateb yn bersonol pe byddai hynny’n fy atal rhag ystyried achos unigol mewn gwrandawiad. Byddaf bob amser yn ceisio cwrdd â'r AC / AS os gallaf fynd i'r afael â'r mater. Mae hynny’n fy ngalluogi i esbonio fy rôl yn llawn, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar fy awdurdodaeth.

 

Swyddfeydd ar gyfer y CT a’i staff yng Nghymru

 

Mae gan swyddfeydd Comisiynwyr Traffig eraill yn Lloegr a'r Alban gyfleusterau penodol er mwyn ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd ac mae ganddynt hefyd  swyddfeydd, ond nid yw hynny'n wir yng Nghymru. O ganlyniad, mae'r CT a Dirprwy Gomisiynwyr Traffig yng Nghymru yn defnyddio adeiladau llysoedd a thribiwnlysoedd a ddarperir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn hanesyddol, nid yw hyn wedi bod yn broblem gan fod nifer o safleoedd posibl ar gael. Canlyniad anffodus mentrau effeithlonrwydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n rhai cwbl ddealladwy, yw ei bod bellach yn anoddach o lawer dod o hyd i le addas mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd, gan fod nifer o lysoedd a thribiwnlysoedd wedi cau. Yng Nghaerdydd, mae'n fwyfwy anodd dod o hyd i ddiwrnodau eistedd addas a chyfleus.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â diffyg cyfleusterau tribiwnlysoedd yn y tymor canolig drwy ei hadeiladau newydd pwrpasol ym Mhontypridd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Bydd gan yr adeilad hwnnw gyfleusterau penodol hefyd a fydd yn addas ar gyfer gwrandawiadau’r comisiynydd traffig. Rwyf yn parhau’n ddiolchgar i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ganiatáu inni ddefnyddio ei Chanolfan Gyfiawnder yn y Trallwng ar gyfer fy ngwrandawiadau yn y Gogledd.

 

Wrth imi fynd ati i gwblhau'r adroddiad hwn, roeddwn yn falch iawn o gael gwybod bod y gwaith o ddarparu llety ar gyfer Swyddfa Comisiynydd Traffig Cymru yng Nghaernarfon yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y swyddfa hon yn ysgwyddo’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Birmingham ac mewn mannau eraill i gefnogi fy ngwaith ar ymchwiliadau cyhoeddus ac ar ymddygiad gyrwyr. Fel gyda phob CT ar draws Prydain, mae materion trwyddedu yn parhau i gael eu canoli mewn swyddfa yn Lloegr (Leeds).

 

Bydd gan yr adeilad yng Nghaernarfon gyfleusterau hefyd lle bydd modd cynnal ymchwiliadau cyhoeddus. Bydd hynny’n golygu y bydd canolfannau gwrandawiadau yn y Trallwng a Chaernarfon ar gyfer y gogledd-ddwyrain a’r gogledd-orllewin.

 

Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu swyddfa i'r CT ei ddefnyddio yng Nghaerdydd er mwyn iddo / iddi fod o fewn cyrraedd i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad a'i aelodau; bydd hynny’n ddefnyddiol iawn.

 

Staffio'r Swyddfeydd yng Nghymru

 

Ar ôl rhoi tystiolaeth yn gynharach eleni i Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad[3], awgrymwyd wrthyf mai ffactor a allai fod yn cyfrannu at yr anawsterau wrth recriwtio staff addas Cymraeg eu hiaith yng Nghaerdydd yw’r graddfeydd cyflog.

 

Bydd y tri aelod o staff cymorth gweinyddol yng Nghaernarfon ar raddfa Swyddog Gweithredol y gwasanaeth sifil, ac mae staff cyfatebol yn Lloegr yn cael eu talu ar raddfa is Swyddog Gweinyddol. Awgrymwyd wrthyf mai'r rheswm dros y raddfa ychydig yn uwch yng Nghymru oedd y ffaith na fyddai gan ddeiliaid y tair swydd reolwr llinell yn yr un swyddfa â nhw. Rhagwelwyd bryd hynny pe byddai'r swyddfa yng Nghaerdydd efallai y byddai'r rheolwyr llinell yn rhywle arall.

 

Nid dyna fy marn i, sef y dylai’r swyddi fod ar raddfa ychydig yn uwch Swyddog Gweithredol er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod gofyniad ym manyleb y person i ddeiliaid y swyddi fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Ni ragwelwyd y byddai Swyddfa’r Comisiynydd Traffig yng Nghymru yn hunangynhaliol, ac y byddai’n rhannu cymorth rheoli llinell gyda Swyddfa Comisiynydd Traffig arall. Oherwydd y bydd swyddfa CT Cymru mor bell o swyddfeydd CT eraill, fy nghyngor i Lywodraeth Cymru yw y dylid gohirio penderfyniad ar raddfa unrhyw swydd rheoli llinell nes y rhoddir ystyriaeth i ba swyddi eraill y gellid hefyd eu lleoli yn y swyddfa. Bydd hynny, yn ei dro, yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir yn y dyfodol ar faterion a allai fod yn rhai datganoledig. Mater i ba asiantaeth bynnag fydd â chyfrifoldeb dros gefnogi Comisiynwyr Traffig fydd cyfiawnhau graddfa alleoliad rheolwr swyddfa Caernarfon.

 

Cofrestru bysiau yng Nghymru

 

Swyddogaeth y cafwyd cymeradwyaeth mewn egwyddor ers tro i’w datganoli yw cofrestru gwasanaethau bysiau. Dro ar ôl tro, rwyf wedi disgrifio’r rôl sydd gennym yn hynny o beth o dan y trefniadau presennol yn fawr ddim ond ymarfer blwch post. Roedd cael mynd gydag un o swyddogion Llywodraeth Cymru ar ymweliad â'r tîm canolog cofrestru bysiau yn Leeds yn agoriad llygad. Mae 3.4 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn ymgymryd â gwaith cofrestru bysiau ar gyfer y cyfan o Gymru a Lloegr y tu allan i Lundain. Mae tua 11,000 o drafodion y flwyddyn, gyda thua 1000 o drafodion ar gyfer Cymru.

 

Yn ystod cyfnod brig gwyliau’r haf a chyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ar amserau dechrau ysgolion, mae dros 300 o geisiadau bob dydd yn aml, gyda'r rhan fwyaf yn cynnwys degau o dudalennau o waith papur. Er bod system TG ar gael i weithredwyr bysiau ei defnyddio, nid yw'n orfodol a, pha un bynnag, dim ond rhan o'r wybodaeth y gellir ei thynnu o’r system er mwyn i staff Swyddfa’r Comisiynydd Traffig ei defnyddio. Mae holl aelodau'r tîm bach gweinyddol ar raddfa Swyddog Gweinyddol ac maent yn cael eu rheoli gan Swyddog Gweithredol sydd hefyd yn gyfrifol am brosesu’r holl drwyddedau trafnidiaeth gymunedol adran 19 ac adran 22 ledled y wlad.

 

Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r tîm fod yn ddibynnol iawn ar swyddogion awdurdodau lleol sy'n cysylltu â nhw i godi pryderon neu broblemau gyda chofrestriadau. O ganlyniad, prin iawn yw’r cyfleoedd i wneud unrhyw graffu gwirioneddol. Mae llawer o'r newidiadau i gofrestriadau gan weithredwyr yn cyfeirio at "newidiadau i'r amserlen", gyda'r tîm yn gyfrifol am wirio a chadarnhau’r manylion, os oes amser i wneud hynny.

 

Er y gallai'r paragraff uchod ymddangos yn feirniadol, rhaid imi bwysleisio mai’r strwythur a'r system a sefydlwyd gan y DVSA sydd gennyf mewn golwg, ac nid y staff. Mae'r swyddfa drwyddedu ganolog yn Leeds wedi wynebu toriadau "effeithlonrwydd" cyson dros y blynyddoedd, a’r canlyniad yw gostyngiad sylweddol iawn yn niferoedd staff ers canoli’r gwasanaeth yn 2006. Mae'r aelodau unigol o staff yn ymroddedig ac yn ymdrechu i fod mor broffesiynol ag y mae adnoddau yn ei ganiatáu. Mae gennyf feddwl mawr ohonynt.

 

Os yw Llywodraeth Cymru yn awyddus i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gofrestru bysiau yng Nghymru, yna dylai ystyried yr hyn y mae am ei gyflawni. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol fod sawl dewis amgen yn lle rhoi’r cyfrifoldeb dros gofrestru i gomisiynydd traffig. Yn wir, mae Deddf Bysiau 2017 yn darparu i awdurdodau lleol yn Lloegr ymgymryd â chofrestru o dan rai amgylchiadau. Ar hyn o bryd, dim ond hanner un aelod o staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio ar gofrestru bysiau yng Nghymru. Os caiff y gwaith hwn ei ddatganoli, yna dylid ystyried nifer y staff, os yw’r gwaith i gael ei wneud yn unol â safon a fydd yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru.

 

 

Edrych ymlaen

 

Penodi fy olynydd

 

Nodir y rhesymau pam yr wyf yn wynebu ymddeol yn orfodol yn 2019 oherwydd fy oedran, ynghyd â phryderon ynghylch recriwtio olynydd addas, mewn cyflwyniad a wneuthum i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru[4].

 

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd ar ran gweinidogion Cymru a San Steffan yn nodi y bydd San Steffan yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru am y broses o benodi’r CT ar gyfer Cymru, gan gynnwys pwy fydd ar unrhyw banel penodi  / cyfweld. Y cyfiawnhad a nodir yw'r cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i alluogi deiliad llawnamser yn y swydd.

 

Yn fy nghyflwyniad i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, awgrymais y dylid ystyried a ddylai Comisiynydd Traffig Cymru fod yn rhan yn y dyfodol o Wasanaeth Tribiwnlys Cymru. Mae’n anochel y byddai angen adolygu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Byddwn yn fodlon ymhelaethu ar y rheswm pam y byddai hynny er budd i weithredwyr ac i'r cyhoedd yng Nghymru, ac un o’r prif resymau yw anallu rheolwyr y DVSA i ddeall cyfyngiadau cyfreithiol y rôl gymorth y maent yn ei darparu ar gyfer comisiynwyr. Byddai symud CT Cymru i fod yn rhan o’r farnwriaeth hefyd yn helpu i hyrwyddo cyfle cyfartal o ddifrif.

 

Argymhellir y dylid mynd ati’n fuan i wneud penderfyniadau ar y materion uchod.

 

Atebolrwydd am gost cymorth

 

O dan y trefniadau cymorth presennol ar gyfer comisiynwyr traffig, mae'n anodd rhoi asesiad cwbl gywir o wir gostau'r gwaith a wneir ar hyn o bryd gan staff cymorth y CT sy'n cael eu cyflogi gan y DVSA. Yn gyntaf, ni ellir codi tâl am lawer o'r trafodion a wneir gan weithredwyr (e.e. newidiadau i gerbydau). Yn ail, ond efallai’n bwysicach, mae diffyg tryloywder dros ffioedd a thaliadau yn gyffredinol.

 

Yn ogystal â phryderon cyffredinol[5] ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y cymorth y mae’r DVSA yn ei ddarparu ar hyn o bryd ar gyfer swyddogaethau'r CT, mae yna gwestiwn go iawn ynghylch a yw'r strwythur ffioedd presennol ar gyfer trwyddedu gweithredwyr yn abl i gefnogi'r gyfundrefn sydd ei hangen er mwyn gwneud hynny. Fel y dywedwyd uchod, ni chodir tâl am nifer fawr o drafodion ac mae codi'r un ffioedd ar bawb yn cael effaith fwy anghymesur ar fentrau bach a chanolig. Am yr wyth mlynedd ddiwethaf felly, rwyf wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod mewn digwyddiadau ar gyfer y diwydiant PSVs a HGVs, gan ddisgrifio sut mae'r diwydiant HGV wedi bod yn sybsideiddio ffioedd PSVs. Gan fod y ffioedd gwirioneddol a godir yn gyfran gymharol fach o gostau rhedeg, mae hynny wedi cyfrannu at y ffaith nad yw’n peri pryder i’r diwydiant, ond mae'n gyfreithiol amheus.

Yn unol â'r pryderonsydd gennyg am gymorth ariannol, byddwn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pa swyddogaethau y mae'n rhagweld y bydd Swyddfa’r Comisiynydd Traffig yng Nghymru yn eu cyflawni. Ar hyn o bryd, mater i'r DVSA yw penderfynu ar raddfa a nifer y staff, ond gobeithio y bydd hyn yn newid, o leiaf i Gymru os nad ar gyfer Prydain drwyddi draw.

 

Fel rhywun sydd â chymwysterau proffesiynol fel cyfreithiwr ac ym maes Adnoddau Dynol, rwyf yn argymell y dylid cynnal adolygiad gwrthrychol annibynnol o raddfeydd staff yng Nghymru. Nodwyd nifer o swyddogaethau datganoledig posibl ar gyfer y tymor canolig a hir. Mae dwy ystyriaeth wahanol yn codi: yn gyntaf, mater i Lywodraeth Cymru fyddai penderfynu a fyddai unrhyw swyddogaeth ddirprwyedig newydd yn cael ei chyflawni yn Swyddfa’r Comisiynydd Traffig yng Nghaernarfon neu gan gorff arall a ariennir gan y cyhoedd, fel Llywodraeth Cymru ei hun, Trafnidiaeth Cymru neu gorff arall. Yn ail, bydd lefel yr oruchwyliaeth hefyd yn dibynnu ar raddfa’r rheolwr swyddfa. Cyn i swyddogaethau trwyddedu’r CTwyr gael eu canoli, roedd gan bob CT aelod o staff ar raddfa uwch a oedd yn galluogi'r unigolyn hwnnw i gynnig cymorth polisi a chymorth gweinyddol ar lefel uwch, gan ryddhau'r CT i weithio'n fwy effeithlon ac effeithiol.

 

Mae nifer y trafodion y codir talu amdanynt sy'n gysylltiedig â chofrestru bysiau yn sylweddol uwch na chost y staff a gyflogir ar hyn o bryd i gyflawni'r dasg hon ar gyfer Cymru. O fynd i’r afael â chofrestru bysiau mewn modd a fyddai’n bodloni lefel y craffu a safon y gwasanaeth yr wyf yn rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl, efallai na fyddai hynny dal yn wir. Er bod y ffioedd a delir am gofrestru yn rhyw £60,000 y flwyddyn, a than i ddeddfwriaeth yn pennu’r ffioedd a fydd yn daladwy yng Nghymru gael ei chyflwyno, efallai mai opsiwn mwy hyblyg fyddai peidio â chodi ffi am gofrestru ac yn hytrach sicrhau bod y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau yn cael ei threfnu mewn ffordd a fydd yn golygu bod y gweithredwyr hynny na fyddant yn bodloni safon gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn cael lefel is o’r grant hwnnw.

 

Mae gennyf brofiad blaenorol fel prif swyddog yn y sector cyhoeddus a oedd ymwneud â chaffael cyfalaf a chynlluniau o dan y Fenter Cyllid Preifat. Rwyf yn ddiolchgar i’r Fenter, i  Lywodraeth Cymru ac i Gyngor Gwynedd am y gwaith sy’n cael ei wneud yn yr hyn sy'n debygol o fod yn swyddfa i mi a fy staff yng Nghaernarfon. Mae'r swyddfa honno, ymddengys, yn cynnig gwerth da iawn am arian.

 

Mae hynny’n cymharu â’r costau a fyddai’n gysylltiedig â swyddfa y bwriedid ei darparu mewn man arall ym Mangor; roedd y swm a ddyfynnwyd gan y DVSA am yr hyn na fyddai’n llawer mwy na chodi wal sych yn gryn syndod.

 

Mae hon yn enghraifft o un o’r meysydd lle y mae cryn le i wella. Ers nifer o flynyddoedd, mae Comisiynwyr Traffig wedi bod yn galw am fwy o dryloywder ac atebolrwydd gan y DVSA am y modd y mae'n gwario'r ffioedd a gesglir ar ran y CTwyr. Mae'r ffioedd yn cael eu codi at y dibenion statudol a nodir yn y ddeddfwriaeth ac ni ddylid eu defnyddio i sybsideiddio cynlluniau eraill y DVSA.

 

Adrodd yn y dyfodol

 

O ystyried y byddaf yn ymddeol yn orfodol ar 30 Medi 2019, rwyf yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i fy nhrydydd adroddiad, a’r olaf, gael ei baratoi erbyn 1 Medi 2019.

 

 

 

Nick Jones

Comisiynydd Traffig

Comisiynydd Traffig dros Ardal Drafnidiaeth Cymru

 

 

Rhagfyr 2018



[1] Adroddiad Blynyddol 1af i Lywodraeth Cymru gan Nick Jones fel Comisiynydd Traffig llawnamser Cymru

[2] Adroddiad Blynyddol y Comisiynwyr Traffig i'r Ysgrifennydd Gwladol 2017/18

[3] Trawsgrifiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau 29/11/2017

[4] Cyflwyniad  i'r Comisiwn ar Gyfiawnder gan Gomisiynydd Traffig Cymru

[5] Y Pwyllgor Dethol ar y Cyfansoddiad − Y Broses Penodiadau Barnwrol: tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig (tt. 321-323)